News

Eisteddfod Genedlaethol 2022 yn Rhondda Cynon Taf

Mae‘r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod am gynnal y brifwyl yn Rhondda Cynon Taf yn 2022.

Yn ôl datganiad ar y cyd gan yr Eisteddfod a Chyngor Rhondda Cynon Taf, fe wnaeth y cyngor fynegi diddordeb mewn cynnal yr achlysur yn ôl yn 2017, ac mae‘r trafodaethau rhagarweiniol wedi parhau ers hynny.

Nid yw‘r brifwyl wedi ymweld â Rhondda Cynon Taf ers 1956, pan gafodd yr Eisteddfod ei chynnal yn Aberdâr.

Er nad yw union leoliad yr ŵyl wedi ei phenderfynu eto, y bwriad y tro hwn yw “cynnal yr achlysur mewn lleoliad canolog”.

Mae‘r Eisteddfod Genedlaethol hefyd wedi ymweld â Merthyr Tudful a Threorci yn y gorffennol.

‘Hybu‘r iaith yn yr ardal‘

Dywedodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, bod yr ŵyl “wrth eu boddau” o gyhoeddi eu bod yn mynd i Rondda Cynon Taf.

Cafodd yr Eisteddfod fodern gyntaf ei chynnal yn Aberdâr ym 1861, a dywedodd Ms Moses ei bod yn “edrych ymlaen at weithio gyda‘r gymuned leol ar draws yr ardal i ddod â‘r ŵyl i‘r sir yn yr unfed ganrif ar hugain”.

Just-released report names Cannabis Stock of the Year for 2019! Their last pick has seen a +1,200% return since he released it!

This stock has all of the makings of the next great cannabis stock – early-mover advantage, international exposure and influential partnerships, plus it has a product that is unlike anything else on the market…

You will also receive a free, weekly newsletter to stay on top of the latest industry trends, read analysis on promising cannabis stocks, and more. Click here to receive your Free Report immediately!

“Rydyn ni o‘r farn y bydd hyn yn helpu i hybu‘r iaith yn yr ardal, gyda‘r ŵyl a‘r prosiect cymunedol yn cefnogi‘r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai.

‘Hwb economaidd‘

Dywedodd arweinydd y cyngor, Andrew Morgan, ei fod yn “anrhydedd” i‘r sir, gan ychwanegu ei fod yn “sicr y bydd yr achlysur yma yn cynnig cyfleoedd economaidd pwysig i Rondda Cynon Taf”.

“Mae gan yr achlysur y potensial i roi hwb economaidd mawr trwy roi‘r cyfle inni arddangos yr hyn sydd gan ein Bwrdeistref Sirol i‘w gynnig fel cyrchfan diwylliannol i ymwelwyr,” meddai.

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan y byddai cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal yn “gyfle i arddangos treftadaeth ddiwylliannol unigryw Rhondda Cynon Taf”.

“Mae‘r gwaith nawr yn dechrau i gynnal achlysur y bydd Cymru a Rhondda Cynon Taf yn falch ohono yn 2022,” meddai.

“Er mwyn sicrhau bod yr achlysur yn llwyddiant, bydd ymgysylltiad y gymuned yn allweddol wrth inni ddatblygu ein cynlluniau.”

Receive News & Ratings Via Email - Enter your email address below to receive a concise daily summary of the latest news and analysts' ratings with MarketBeat.com's FREE daily email newsletter.

Tags: , , ,

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*